Newyddion Diweddaraf
Dewis Doeth
Mae swyddogion wedi addo parhau i daclo gyrwyr sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ar ôl sawl arestiad yn ystod wythnos gyntaf ymgyrch cenedlaethol y Nadolig.
Ers lansiad yr ymgyrch ar ddydd Sadwrn y 1 Rhagfyr mae swyddogion wedi arestio 13 am yrru dan ddylanwad alcohol a 6 am yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Lefel uchaf mesuriad gwynt yr ymgyrch hyd yn hyn yw 146 - y terfyn cyfreithiol yw 35.
Meddai’r Arolygydd Dave Cust o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, “Mae’n siomedig iawn fod lleiafrif yn parhau i anwybyddu ein negeseuon - er ein bod wedi rhoi sawl rhybudd. Er dim ond wythnos i mewn i’r ymgyrch mae 19 o unigolion wedi cael eu harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad.
“Mae ein hymgyrch #DewisDoeth yn canolbwyntio ar ofyn i bobl wn... More/Mwy
Canlyniadau Ymgyrch Atal Gyrru Dan Ddylanwad yr Haf
Cafodd dros 170 o arestiadau am yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau eu gwneud yng Ngogledd Cymru fel rhan o ymgyrch cenedlaethol er mwyn targedu’r rhai sy’n gyrru o dan ddylanwad.
O dan arweiniad Heddlu De Cymru, fe lansiodd y pedwar heddlu yng Nghymru'r Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau Cenedlaethol er mwyn cyd-fynd â chystadleuaeth Cwpan y Byd.
Rhwng 14 Mehefin a 14 Gorffennaf gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru arestio 109 am yfed a gyrru a 65 am yrru ar gyffuriau.
Dywed yr Uwcharolygydd Dros Dro Paul Joyce o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Gwnaethom gyhoeddi ar gychwyn yr ymgyrch y byddem yn canolbwyntio ar dargedu’r rhai sy’n gyrru o dan ddylanwad.
“Er y rhybudd, mewn dros bedair wythnos, mae 174 o fodurwyr wedi cael eu harestio yng ... More/Mwy
CYNGOR GWYNEDD YN CYFLWYNO SESIYNAU RHEOLI CAR I BOBL IFANC
Mae Cyngor Gwynedd eisoes yn cynnig sesiynau Pass Plus Cymru sy'n gwrs byr gyrru uwch sy’n cael ei arwain gan arbenigwyr ar gyfer pobl ifanc rhwng 17 -25 oed, sydd wedi pasio eu prawf gyrru.
Bydd cyfle i bobl ifanc ehangu eu profiad a datblygu technegau gyrru megis gyrru yn y nos, ar y draffordd, dreifio ar lonydd gwledig neu drefi prysur.
Fel mesur pellach i achub bywydau, mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno sesiwn rheoli car ar sail “y cyntaf i’r felin” i ganran o bobl ifanc sy'n cwblhau Pass Plus Cymru.
Meddai Rhian Williams, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd, ac aelod o’r Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd:
“Mae’r cynllun Pass Plus yn ffordd dda iawn i bobl ifanc wella eu medrau gyrru ac i fod yn llai tebygol o gael ... More/Mwy