Bod yn amlwg bod yn ddiogel.
Byddwch yn weladwy ac yn ddiogel wrth gerdded a beicio i’r ysgol oedd prif neges tîm Diogelwch ysgol Talwrn. Yn dilyn pwyllgor gyda Ceri (Diogelwch y Ffyrdd) a Beca ( Swyddog Bike It) penderfynodd y Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd a’r Swyddogion Bike It baratoi cyflwyniad a fyddai’n annog eu ffrindiau i wisgo rhywbeth llachar neu olau wrth deithio i’r ysgol. Roedd yn bryder mawr ganddynt ddarganfod bod nifer o ddamweiniau ffyrdd di angen yn digwydd pan bod gyrrwr yn cael anhawster i weld beicwyr a cherddwyr sydd yn gwisgo dillad tywyll.
Cafwyd cyflwyniad hynod o ddifir ac roedd holl disgyblion yr ysgol wedi dysgu a mwynhau.
Daeth y disgyblion i’r canlyniad bod llawer o gotiau gaeaf yn dywyll ond bod gosod rhywbeth llachar ac adlewyrchol dros cot dywyll yn gwneud byd o wahaniaeth.
Mae hyd yn oed cot ddu yn edrych yn llawer mwy amlwg wrth ychwanegu bandana llachar a band braich adlewyrchol.
Roedd y plant wrth eu bodd yn cael band braich adlewyrchol yn anrheg gan Beca a bydd y Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Ysgol yn eu hatgoffa yn aml i’w gwisgo wrth gerdded i’r ysgol.
Penderfynodd y Swyddogion Ysgol gynnal cystadleuaeth. Cystadleuaeth creu poster i annog holl Cerddwyr a Beicwyr i sicrhau eu bod yn amlwg i yrwyr. Byddant gyda hyn yn beirniadu’r gwaith ac yn cyflwyno'r enillydd gyda gwobr lachar. Felly, Pob lwc pawb, gwnewch eich gorau!
Diolch yn fawr i’r tîm Diogelwch am eu gwaith ardderchog.